Mae Cynghrair Ailwylltio Cymru (“ni” neu “ein”) yn rhwydwaith o sefydliadau sy’n cefnogi ailwylltio yng Nghymru. Mae’r polisi hwn yn esbonio sut rydym yn trin eich data personol.

Rheolydd Data

Ar hyn o bryd, mae Cynghrair Ailwylltio Cymru yn brosiect cydweithredol yn hytrach na chorff cyfreithiol annibynnol. Tir Natur (Elusen Gofrestredig Rhif: 1199300) yw’r Rheolydd Data. Nhw sy’n cynnal ein rhestrau postio ac sy’n rheoli’r data a gesglir drwy ein ffurflenni tanysgrifio.

Nid ydym yn defnyddio cwcis i olrhain eich ymddygiad ar ein gwefan, ac nid ydym yn defnyddio offer dadansoddeg ein gwefan i gasglu unrhyw ddata personol na gwybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol. Rydym yn defnyddio Plausible Analytics, sy’n ein galluogi i weld y tueddiadau cyffredinol yn nhraffig y wefan heb adnabod ymwelwyr unigol.

Y Wybodaeth a Gasglwn

Yr unig ddata personol a gasglwn ydy’r wybodaeth a rowch yn wirfoddol:

  • Manylion cyswllt: eich enw cyntaf, eich cyfenw a’ch cyfeiriad e-bost, a rowch wrth gofrestru i dderbyn diweddariadau e-bost drwy ein ffurflen Mailchimp.
  • Ymddygiad e-bost: Mae Mailchimp yn defnyddio technolegau safonol diwydiant i olrhain a gaiff y negeseuon e-bost a anfonwn eu hagor a pha ddolenni a gaiff eu clicio. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein gohebiaeth yn parhau’n berthnasol i’n cefnogwyr.

Sut Rydym yn Defnyddio eich Data

Rydym yn prosesu eich data ar sail Cydsyniad (yn achos cylchlythyrau a diweddariadau e-bost) neu Fuddiant Dilys (i reoli’r Gynghrair a chynnal ein gwefan) ar gyfer y canlynol:

  • I anfon diweddariadau atoch am Gynghrair Ailwylltio Cymru ac ailwylltio yng Nghymru.
  • I reoli eich cyfranogiad yn ein hymgyrchoedd neu ddigwyddiadau.

Rhannu Eich Data

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data. Dim ond gyda darparwyr gwasanaethau angenrheidiol fel Mailchimp y byddwn yn ei rannu.

Gallai’r Gynghrair ddal ati fel prosiect cydweithredol neu gallai ddod yn endid cyfreithiol annibynnol yn y dyfodol. Os bydd y Gynghrair yn penderfynu ymgorffori fel endid cyfreithiol ar wahân, bydd eich data yn cael ei drosglwyddo i’r endid newydd hwnnw fel y rheolydd olynol, a byddwch yn cael hysbysiad am y newid hwn.

Trosglwyddiadau Rhyngwladol

Os cofrestrwch i dderbyn diweddariadau, caiff eich data ei brosesu gan Mailchimp, sy’n storio ei ddata yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol (er enghraifft, Cymalau Contractol Safonol) yn eu lle i ddiogelu eich data yn unol â safonau’r DU.

Eich Hawliau

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich data, i’w gywiro neu i’w ddileu, ac i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (drwy’r ddolen “dad-danysgrifio”). Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn

Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru ein Polisi Preifatrwydd o bryd i’w gilydd. Os ydych yn danysgrifiwr, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost pan gaiff newidiadau eu gwneud. Byddwn hefyd yn diweddaru’r dyddiad “Diweddarwyd ddiwethaf” ar frig y Polisi Preifatrwydd hwn.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch data neu’r polisi hwn, cysylltwch â Tir Natur:

E-bost team@tirnatur.cymru
Cyfeiriad: Moat Farm, Trimsaran, Cydweli, Dyfed, SA17 4EL, Cymru