Croesawodd un o aelodau Cynghrair Ailwylltio Cymru, Rewilding Britain, y cyfle i gynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru yn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig ar danau gwyllt, ar 4 Tachwedd 2026, ac i ymgysylltu ag aelodau newydd y Pwyllgor.
Roedd y sesiwn yn llwyfan amserol ar gyfer ystyried y dystiolaeth wyddonol ar rôl rheoli tir yn yr ymdrech i liniaru tanau gwyllt, ynghyd ag archwilio’r datrysiadau y dylem fod yn galw arnynt i’w rhoi ar waith. Roedd yna nifer o ddatrysiadau allweddol y gwnaethom eu cynnig.
Yn gyntaf, fe wnaethom argymell y dylid cryfhau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gyfrwng Pecyn Gwydnwch Hinsawdd pwrpasol i gefnogi rheolwyr tir i greu tirweddau a all wrthsefyll tanau gwyllt, gan gynnwys drwy bori naturiol a chynefin i afancod. Dylid ategu hyn gan Gronfa Gwydnwch mewn Tywydd Eithafol, sy’n hygyrch i bob rheolwr tir, awdurdod lleol ac i’r rhai y tu allan i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, er mwyn cefnogi ymyriadau ymarferol, er enghraifft tirweddau gwlypach a mwy amrywiol, a lleiniau atal tân naturiol.
Fe wnaethom hefyd bwysleisio’r angen am ymrwymiad hirdymor i atebion seiliedig ar natur. Mae buddsoddi mewn mawndiroedd a gwlyptiroedd iach, coetiroedd gwydn a thirweddau sy’n gyforiog o rywogaethau yn helpu i leihau perygl tanau gwyllt gan hefyd gynnig manteision ehangach o ran bioamrywiaeth, storio carbon, rheoleiddio dŵr a gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd. Dylid cynyddu cyllid ar gyfer adfer hydrolegol a chynlluniau fel y Gronfa Rhwydweithiau Natur er mwyn cefnogi newid ar raddfa’r dirwedd a gwytnwch hirdymor.
Yn olaf, fe wnaethom argymell cryfhau gwaith cyfathrebu â’r cyhoedd ar ffynonellau perygl tân a gwell monitro, ymchwil a gwerthuso mewn perthynas â thanau gwyllt er mwyn deall y risgiau ac effeithiolrwydd ymyriadau yn well.
At y dyfodol, bydd Cynghrair Ailwylltio Cymru yn dal ati i ymgysylltu ar y pwnc hwn mewn ffyrdd eraill, gan ymdrin â’r prif ddylanwadau o ran perygl tanau gwyllt:
hinsawdd, hydroleg, dulliau rheoli tir, cyflwr cynefinoedd a’r pridd, strwythur y dirwedd ac ymddygiad pobl. Yn y tymor byr, rhaid lleihau’r perygl y caiff tanau eu cynnau. Mae a wnelo hyn nid yn unig â faint o lystyfiant sydd yn y dirwedd, ond hefyd ei gyfansoddiad, yn ogystal â pha mor wlyb yw tirwedd a beth yw cyflwr y pridd. Yn y tymor hir, rhaid gwella gwytnwch ein tirweddau fel eu bod yn gallu gwrthsefyll tanau gwyllt yn well, arafu eu hymlediad, ac adfer ar eu hôl.
Pan fydd tanau yn digwydd, rhaid i’n gwasanaeth tân a’n cymunedau fod â digon o adnoddau a chefnogaeth i ymateb.
Byddwn yn dal ati i alw am gefnogaeth ar gyfer ein hargymhellion allweddol ac i eirioli dros bolisi, cyfathrebu ac adolygiadau o’r dystiolaeth er mwyn cydnabod rôl ecosystemau iach, adfer cynefinoedd a datrysiadau seiliedig ar natur ochr yn ochr â mesurau gweithredol i leihau’r risg.
Mae buddsoddi mewn natur yn gyfle i greu cyfleoedd ar gyfer ffynonellau incwm newydd i dirfeddianwyr ac i gynyddu swyddi, sy’n dda i’r economi ac i gymunedau gwledig. At hynny, er i’r sesiwn dystiolaeth hon ganolbwyntio ar danau gwyllt, mae llawer o’r camau hyn i adeiladu gwytnwch ecosystemau yn wyneb tanau gwyllt hefyd yn lliniaru rhag llifogydd. Wrth i Gymru edrych tuag at ddyfodol o ddigwyddiadau tywydd anrhagweladwy, bydd cymryd y camau hyn nawr yn sicrhau bod amddiffynfeydd naturiol y wlad mor gryf ag y gallant fod i wrthsefyll y canlyniadau.