Ein dull
Meithrin Cymru wyrddach
Rydym yn ceisio gweithredu fel mudiad sy’n rhoi llais cryfach i bobl dros ddyfodol natur, o ran sut caiff penderfyniadau eu gwneud a’u hawl i gael mynediad iddi a’i mwynhau. Mae ailwylltio yn ganolog i hyn. Rydym am i bobl ar hyd a lled Cymru deimlo bod ganddyn nhw gyfran go iawn yn y penderfyniadau a wneir am y tir a’r môr, penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, eu bywoliaeth, a’u cymdogaethau.
Drwy weithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr, grwpiau diddordeb a’r llywodraeth, ein nod yw meithrin cydweledigaeth ar gyfer ein tirweddau a’n morweddau sy’n hyderus ac yn agored am yr angen am natur ffyniannus yn ein dyfodol ni oll.