Pleidleisio ar Ddyfodol Cymru
Ar y 7fed o Fai, bydd Cymru’n pleidleisio mewn etholiad arwyddocaol. Yn sgil diwygiadau etholiadol newydd, mae gan Gymru system cynrychiolaeth gyfrannol, gydag 16 o etholaethau bob un yn ethol chwe chynrychiolydd. Bydd y Senedd ei hun yn tyfu o 60 i 96 o Aelodau, gan gynyddu’n sylweddol y gallu i leisiau lleol roi eu stamp ar bolisi cenedlaethol. Nid dim ond dechrau seithfed tymor y Senedd yw hyn; mae’n gychwyn democratiaeth ar ei newydd wedd.
Eich Llais Chi, Eich Natur Chi, Eich Dyfodol Gwyllt Chi
Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, mae gennych chi’r pŵer i bennu’r cyfeiriad ar gyfer ein cenedl. Pleidleisio yw’r ffordd fwyaf uniongyrchol o ddweud wrth y Llywodraeth beth sy’n wirioneddol bwysig i chi.
Mae penderfyniadau ar fyd natur, y defnydd o’r tir, a’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd wedi’u datganoli’n llwyr. Mae gan Lywodraeth Cymru y gyllideb a’r pwerau deddfwriaethol i benderfynu a fydd ein tirweddau’n ffynnu neu’n dirywio. Yng Nghymru, mae’r pwerau sy’n effeithio ar ein bywydau beunyddiol ac ar fyd natur yn gyfan gwbl yn ein dwylo.
Gweledigaeth ar gyfer Cymru Wylltach
Ydych chi’n breuddwydio am ddyfodol sy’n wylltach, yn gyfoethocach o ran bioamrywiaeth, ac yn llawn cyfleoedd i gymunedau lleol? Ry’n ni o’r farn mai ailwylltio yw craidd y weledigaeth honno—mae’n arf hanfodol ar gyfer adfer ein tirweddau lluddedig ac adfywio ein heconomïau gwledig.
I’ch helpu i wneud dewis gwybodus, rydym wedi crynhoi maniffestos y prif bleidiau gwleidyddol. Rydym wedi edrych y tu hwnt i’r prif ymrwymiadau i ddod o hyd i’r addewidion a allai wir ein rhoi ar y trywydd iawn i “Wylltio y Ffordd Gymreig”.
“Mae adfer natur yn un o’r buddsoddiadau sy’n dychwelyd yr elw gorau posib.” — Yr Athro Nathalie Seddon, Briff Diogelwch Cenedlaethol
Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom sy’n poeni am natur i ddwyn ein cynrychiolwyr newydd i gyfrif. Fel y nododd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025:
“Nid yw Cymru yn dechrau o’r dechrau. Mae gennym seiliau cadarn yn eu lle eisoes. Nid diffyg cyfreithiau na phwerau yw’r her i ni—yr her yw sut i’w defnyddio.”
Darllenwch Faniffesto Rewilding Britain ar gyfer Cymru Yma.
Plaid Werdd Cymru
Y Blaid Werdd sy’n cynnig yr ymrwymiad mwyaf clir i ailwylltio, gan ganolbwyntio ar newidiadau systemig ac egwyddor “dim llithro’n ôl” i sicrhau na chaiff amddiffyniadau amgylcheddol eu gwanhau gan lywodraethau’r dyfodol.
- Strategaeth Ailwylltio Genedlaethol: Cynllun pwrpasol i gefnogi adferiad ecosystemau, gan gynnwys ailgyflwyno rhywogaethau brodorol ac adfer cynefinoedd ar dir cyhoeddus.
- Ymrwymiad 30×30: Amddiffyn 30% o dir, dŵr croyw a moroedd Cymru erbyn 2030, gyda 10% o’r moroedd wedi’u gwarchod yn llawn rhag pob gweithgaredd niweidiol.
- Gwarchodaeth Forol: Gwahardd treillio a llusgrwydo ar wely’r môr mewn ardaloedd gwarchodedig; adfer morfeydd heli, morwellt a riffiau wystrys.
- Deddf Diwygio Tir: Cyflwyno Hawl i Grwydro a “hawl cymunedau i brynu tir”, gan roi mwy o bŵer i bobl leol.
- Fframwaith Defnydd Tir: Canllaw strategol i gydbwyso sicrwydd bwyd, storio carbon a bioamrywiaeth.
- Cymorth Sefydliadol: Diwygio Parciau Cenedlaethol i wneud adfer bioamrywiaeth yn un o’u pwrpasau craidd, a sicrhau adnoddau priodol i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Llafur Cymru
Mae’r Blaid Lafur yn cynnig manylion strwythurol cynhwysfawr, gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma. Mae’n canolbwyntio ar dasgluoedd a thargedau wedi’u rhwymo mewn cyfraith.
- Tasglu Ailwylltio: Yn benodol ar gyfer cymunedau trefol i ddod â natur i mewn i drefi a dinasoedd.
- Ailgyflwyno Rhywogaethau: Cefnogaeth glir i afancod a rhywogaethau brodorol eraill.
- Targedau wedi’u Rhwymo mewn Cyfraith: Gosod targedau ar gyfer adferiad natur mewn cyfraith erbyn 2027 drwy Ddeddf Llywodraethiant Amgylcheddol newydd.
- Ystadau Natur Cymru: Fforwm i dirfeddianwyr mawr gydlynu gwaith adfer natur ar raddfa fawr.
- Adolygiad o Adar Hela: Adolygu’r 0.8–2.3 miliwn o adar hela anfrodorol sy’n cael eu rhyddhau ac sydd ar hyn o bryd yn rhoi pwysau ar ecosystemau brodorol.
- Swyddi Gwyrdd: Cyllid ar gyfer sgiliau ym meysydd amddiffyn rhag llifogydd ac adferiad morol.
Plaid Cymru
Mae maniffesto Plaid yn osgoi iaith “ailwylltio”, gan ganolbwyntio yn hytrach ar “dirweddau sy’n llawn natur” ac adferiad dan arweiniad cymunedau.
- Gwarchodaeth Forol: Yn gryf ar gwblhau Ardaloedd Morol Gwarchodedig a rhoi’r gorau’n raddol i dreillio ar wely’r môr, ond dim manylion ar barthau “dim cymryd”.
- Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur: Blaenoriaethu gwarchod ardaloedd cyforiog o natur sy’n bodoli eisoes, ond nid yw’n dynodi mwy o ardaloedd, nac yn cysylltu nac ehangu rhai sy’n bodoli eisoes.
- Cynllun Morwellt Cenedlaethol: Ymrwymiad penodol i un o gynefinoedd mwyaf hanfodol Cymru o ran dal carbon.
- Datblygu Gwledig: Defnyddio hawl y gymuned i brynu ac amaeth-goedwigaeth (y goeden gywir yn y lle cywir) i feithrin gwydnwch.
- Y Bwlch: Dim sôn am rywogaethau allweddol (fel afancod) na strategaethau penodol ar gyfer ailwylltio.
Ceidwadwyr Cymreig
Ffocws ar Fwyd a Seilwaith Nid oes gan lwyfan y Ceidwadwyr ymrwymiad clir i wrthdroi’r colledion i fyd natur. Mae’n canolbwyntio yn hytrach ar reoli carthffosiaeth a chynyddu cynhyrchiant bwyd, ac nid ar fioamrywiaeth.
- Yr Addewid “Bywyd Gwyllt”: Ymrwymiad o £20 miliwn i natur, sy’n sylweddol is na’r bwlch ariannu blynyddol o £438 miliwn sydd ei angen, yn ôl yr amcangyfrifon, i gyrraedd y targedau presennol.
- Risgiau Posibl: Gallai dileu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy achosi ansicrwydd aruthrol i reolwyr tir ac arwain at golli ardaloedd natur ar ffermydd.
- Newid Sefydliadol: Gallai disodli Cyfoeth Naturiol Cymru gyda “rheoleiddiwr annibynnol” ddileu ei swyddogaethau rheoli tir (mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 7% o Gymru ar hyn o bryd).
Reform UK
Ffocws ar “Weithgareddau Gwledig” Mae maniffesto Reform yn adlewyrchu llawer o bwyntiau’r Ceidwadwyr ond yn cynnwys rhagor o fanylion am gynyddu amrywiaeth yn yr economi wledig, er bod “natur” yn absennol i raddau helaeth.
- Cefnogaeth i Ladd-dai Bach: Yn gadarnhaol ar gyfer ailwylltio, gan fod prosesu yn lleol yn cefnogi da byw a ddefnyddir yn aml mewn prosiectau ailwylltio ar gyfer pori dwysedd isel er cadwraeth (moch/gwartheg).
- Risgiau Posibl: Diddymu CNC a dod ag adolygiadau o drwyddedau cyffredinol ar gyfer adar hela i ben. Gallai hyn arwain at gynnydd mewn campau gwn, gyda mewnlifiad o rywogaethau anfrodorol, a fyddai’n tanseilio adferiad natur frodorol ymhellach.
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Er bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi dulliau “agos at natur”, mae eu hamserlen ddegawdau i ffwrdd ac yn rhy hirdymor i ddatrys problemau heddiw.
- Coridorau Glas: Cefnogaeth ar gyfer cynefinoedd dyfrol cysylltiedig a gwydnwch rhag llifogydd yn seiliedig ar ddalgylchoedd.
- Datrysiadau Seiliedig ar Natur: Cydnabod rôl natur mewn storio carbon ac atal llifogydd.
- Y Pryder: Targed o 2050 ar gyfer adfer natur. Heb dargedau dros dro, mae’r gorwel hwn yn rhy bell i ffwrdd i fynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol presennol.
Beth sydd ar Goll yn Gyffredinol?
Hyd yn oed gyda’r ymrwymiadau cryf gan y Blaid Werdd a Llafur, mae sawl elfen allweddol ar goll o’r sgwrs genedlaethol i wneud ailwylltio yn wirioneddol lwyddiannus yng Nghymru:
- Cysylltedd ar draws y Dirwedd: Er bod llawer yn sôn am “30×30”, ychydig iawn o fanylion sydd am y weledigaeth a’r camau gweithredu a fydd yn gyrru’r newid hwn.
- Uchelgais ar gyfer Rhywogaethau Allweddol: Y tu hwnt i afancod, nid oes dim sôn am rywogaethau allweddol eraill sydd ar goll (fel bele’r coed, y gath wyllt, y ciconia gwyn, neu’r eryr môr) sy’n dylanwadu ar iechyd ecosystemau.
- Sicrwydd Ariannol Hirdymor: Mae’r bwlch ariannu yn enfawr (bron i £440m). Nid oes yr un blaid wedi egluro’n llawn sut i bontio’r bwlch hwn drwy gymysgedd o gyllid cyhoeddus a buddsoddiad preifat “gwyrdd” wedi’i reoleiddio.
- Parthau “Dim Cymryd” Morol: Er bod sôn am “amddiffyn”, mae’r dynodiad penodol ardaloedd morol gwarchodedig iawn (lle na chaniateir unrhyw echdynnu o unrhyw fath) yn dal i fod yn wleidyddol sensitif a heb ei ddiffinio’n ddigonol.
- Integreiddio Gwlad a Thref: Mae ailwylltio yn fwy na dim ond breuddwyd gan drigolion ein trefi a’n dinasoedd, sef y mwyafrif o bobl, i’w roi’n rhodd gan y rhai sy’n ddigon breintiedig i fod yn berchen ar dir, y lleiafrif sy’n berchen ar y mwyafrif o’r tir. Mae ailwylltio yn ailboblogi, yn ailgysylltu â natur, yn rhoi lle i fywydau gwyllt ffynnu, felly y gallant, yn eu tro, ein helpu ni i ffynnu. Yn anffodus, nid oes cydnabyddiaeth wirioneddol yn y naratif bod y penderfyniadau a wneir am ein tirwedd a’n natur yn effeithio ar bob un ohonom.
Beth Alla i Ei Wneud?
Dangoswch eich cefnogaeth at natur i ymgeiswyr o bob plaid drwy gwblhau ein hymgyrch Ail-wylltio’r Etholiad, yn fan hyn.
Cofrestrwch gyda Chynghrair Ailwylltio Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Lawrlwythwch a darllenwch ein hadroddiad a helpwch i ledaenu’r gwaith – ail-boblogi yw ail-wylltio, ac mae’n ddatrusiad pwerus i adfer natur a ninnau yn ei sgil.