Meeting Room

Sicrhaodd aelod o Gynghrair Ailwylltio Cymru, Rewilding Britain, sedd yn Uwchgynhadledd Newid yn yr Hinsawdd a Gwydnwch Cymru ar yr 22ain o Hydref.

Yn 2026, llosgwyd 15,650 hectar o Gymru, rhwng mis Mawrth ac Awst. Mae hynny’n cyfateb i dros 15,000 o gaeau rygbi. Bron i 1% o arwynebedd tir Cymru. Rhywbeth hyd yn oed mwy pryderus yw prif leoliadau’r tannau. Rydym yn gweld difrod i rai o’n hasedau naturiol mwyaf gwerthfawr – mae natur yn rhan o’n seilwaith cenedlaethol ac mae’n profi difrod sylweddol, gan danseilio blynyddoedd o waith caled, cyllid a chydweithio er lles natur, hinsawdd a’r mannau lle rydym yn treulio ein hamser rhydd.

Yn 2026 roedd 38% o’r ardal a losgwyd ar dir comin, gan gynnwys yr Epynt (o’i gymharu i 53% yn 2025).

Cafodd ein SoDdGAau eu heffeithio yn sylweddol, sef ein hardaloedd mwyaf gwarchodedig, gan gyfrif am 67% o’r ardal a losgwyd yn 2026 a 49% yn 2025. Effeithiwyd yn sylweddol hefyd ar fawn dwfn gyda 40% o’r ardal llosgi yn 2026 yn digwydd ar fawn dwfn (o’i gymharu â 27% yn 2025).

Hoffai Cynghrair Ail-wylltio Cymru ddiolch i’r Prif Weinidog am ddod â grŵp amrywiol o randdeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd i gyd-ddylunio’r ymateb i ddigwyddiadau 2026 a’r cynnydd sydd ar ddod mewn digwyddiadau tywydd eithafol, a nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd mor glir yn eu hasesiad o’r angen am dargedau addasu a pharatoadau ar gyfer 2 radd o gynhesu hinsawdd erbyn 2050.

Rydym yn falch bod cydnabyddiaeth mor glir o’r angen i feithrin gwydnwch – mae buddsoddiad mewn addasu yn fuddsoddiad yng Nghymru.

Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael a’r Rheoliadau a’r cod Llosgi Rheoledig ar gyfer Grug a Glaswellt. Mae’r dystiolaeth yn glir bod llosgi rheoledig yn creu tirweddau parhaol fflamadwy ac yn cael effeithiau negyddol ar iechyd pridd, hydroleg ac ar iechyd pobl.

Annogwn y Llywodraeth i ymrwymo i greu Cronfa Tywydd Eithafol ar gyfer cymunedau a rheolwyr tir. Mae angen arian ychwanegol ac iddo fod ar gael i bobl nad ydynt yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Dylai’r gronfa geisio ailwlychu tirweddau, hwyluso pori naturiol gyda llysysyddion mawr fel gwartheg, moch a merlod, a chefnogi creu coetir llydanddail a ffridd. Mae tirweddau mosaig yn atalfeydd tân naturiol hanfodol yn ein tirwedd.

Hoffem hefyd weld pecyn Cydnerthedd Hinsawdd yn cael ei ddatblygu yn haen ddewisol a chydweithredol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Y cynllun yw’r prif lwybr ar gyfer newid i dirfeddianwyr yng Nghymru. Byddai Pecyn Gwydnwch Hinsawdd yn diwallu’r galw, y diddordeb a’r pryder gan dirfeddianwyr a godwyd yn ystod y Ford Gron, gan gynnig gwerth da am arian  cyhoeddus – mae gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar addasu yn tynnu sylw at y ffaith bod atebion sy’n seiliedig ar natur yn rhoi enillion ar fuddsoddiad o 2:1 i 10:1. Bydd creu mosaigau o gynefinoedd o fewn tirweddau amrywiol ac ail-wlychu ac adfer ein mawn, glaswelltiroedd gwlyb, gorlifdiroedd a chorsydd yn darparu manteision ychwanegol er mwyn natur a chymunedau.

Roedd yr Uwchgynhadledd yn teimlo fel dechrau. Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf a phryd  y bydd yn digwydd yn gwbl allweddol i sicrhau Cymru lewyrchus a gwydn ar gyfer y dyfodol. Rydym bum mis o’r ffenestr arferol ar gyfer tanau gwyllt y gwanwyn. Mae Cynghrair Ail-wylltio Cymru yn barod i helpu i lunio’r camau nesaf.